1. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro wedi ymrwymo i wella llesiant pobl a chymunedau yn Sir Benfro drwy ei Gynllun Llesiant.  Mae'r Cynllun yn y cyfnod ymgynghori ar hyn o bryd.  Mae lliniaru effaith tlodi, a gwella bywydau pobl mewn tlodi, yn thema ganolog sy'n rhan o'r holl ffrydiau gwaith â blaenoriaeth yn y Cynllun. 

2. Yn sgil amgylchiadau penodol Sir Benfro, mae wedi bod yn ddefnyddiol i'r Bwrdd roi ystyriaeth i'r mater tlodi o ran natur wledig ac ymylol y sir, a'r effaith y gall y ffactorau hyn ei chael yn aml ar lesiant.  Ymchwiliodd ein Hasesiad Llesiant, a gafodd ei lywio drwy ymgysylltu â phreswylwyr a dadansoddi data lleol, i rai o'r materion hyn a daeth i'r casgliad, er nad yw Sir Benfro yn arbennig o ddifreintiedig wrth ddefnyddio dulliau traddodiadol o fesur tlodi, fod ein natur wledig yn creu annhegwch mewn sawl meysydd.  Mae hyn yn arbennig o amlwg o ran agosrwydd gwasanaethau, darparu trafnidiaeth, cynnydd yng nghost tanwydd a chyfleustodau, a mynediad at gyfleoedd boed hynny'n gyflogaeth, yn addysg neu'n hyfforddiant.

3.  Yn unol â hynny, mae'r Bwrdd wedi nodi mai un o'i flaenoriaethau allweddol yw 'Mynd i'r afael â'r natur wledig' a thrwy'r ffrwd waith hon y bydd yn ail-archwilio dulliau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau ac yn dylunio gwasanaethau mwy integredig a chysylltiedig er mwyn sicrhau nad yw pobl dan anfantais oherwydd ble maent yn dewis byw.

4. Mae ffrydiau gwaith eraill â blaenoriaeth a fydd mewn amser yn cyfrannu at yr agenda gwrth-dlodi yn cynnwys 'Byw a Gweithio' (sy'n canolbwyntio ar sgiliau, hyfforddiant a chyflogadwyedd, a gweithio gyda chyflogwyr i wneud Sir Benfro yn lle mwy deniadol ac ymarferol i bobl fyw a gweithio ynddo) a 'Cymunedau Dyfeisgar' sy'n ymwneud â chryfhau gwead ein cymunedau ar adeg pan fo gwasanaethau yn cael eu tynnu'n ôl a lle mae tuedd gyffredinol tuag at ranbartholi yn creu cyfleoedd i gymunedau ddod yn fwy dyfeisgar, gwydn a hunan-gynhaliol.

5. Hefyd mae'r Bwrdd yn rhan o'r adolygiad o Gymunedau yn Gyntaf a'r dewisiadau a'r blaenoriaethau i'w rhoi ar waith fel rhan o'r Gronfa Etifeddol. Mae'r Bwrdd wedi cael diweddariadau parhaus gan y grŵp adolygu ac mae'n goruchwylio'r cynnydd.  Mae nifer o aelodau o'r Bwrdd hefyd yn rhan o'r grŵp adolygu.

6. Mae gwaith gwrth-dlodi lleol hefyd yn cael ei lywio gan bartneriaid yn eu sefydliadau unigol eu hunain ac mae angen i'r Bwrdd sicrhau ei fod yn cyd-fynd â'r gwaith hwn ac yn cyfrannu ato fel y gall ychwanegu gwerth at y gwaith lle y bo'n briodol.  Enghraifft o hyn yw gwaith yr awdurdod lleol a'i ymrwymiad i ddatblygu cynllun gweithredu gwrth-dlodi dan arweiniad hyrwyddwr Aelodau etholedig.  Cynhelir seminar yn y flwyddyn newydd i symud y gwaith hwn yn ei flaen ac mae partneriaid y Bwrdd wedi cael eu gwahodd i’r seminar hwn i sicrhau bod y Bwrdd yn gallu cyfrannu at hyn ar lefel strategol.

7. O ran yr effaith wirioneddol, mae'n llawer rhy gynnar i ddweud beth fydd dylanwad y Bwrdd o ran lleihau tlodi.  Fodd bynnag, mae'n glir bod mynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n gysylltiedig â thlodi yn rhan amlwg o Gynllun Llesiant y Bwrdd a'r her i bartneriaid bellach yw cyflawni'r blaenoriaethau hyn drwy ddatblygu atebion cydweithredol ac integredig a thrwy ymrwymiad parhaus i wrando a chynnwys pobl Sir Benfro.